Ap Parent & Carer · canolfan gymorth

Sut allwn ni helpu?

Chwiliwch am bopeth isod, neu dewiswch gategori. Os ydych chi dal yn cael trafferth, mae yna berson go iawn ar waelod y dudalen hon.

Pori fesul categori

Gosod – 6 canllaw

  1. Cael yr ap ar eich ffôn

    Agorwch yr App Store (iPhone) neu Google Play (Android), chwiliwch am GroupEd Parent, a tapiwch Get neu Install.

    Eicon Parent app GroupEd Look for this icon: the GroupEd Parent app. Tapping it opens the app once it’s installed.
  2. Agorwch eich gwahoddiad gan yr ysgol

    Mae eich ysgol yn anfon gwahoddiad e-bost atoch. Dewch o hyd iddo yn eich mewnflwch a thapio’r botwm y tu mewn. Methu ei weld? Gofynnwch i swyddfa’r ysgol ei anfon eto.

  3. Dewiswch eich cyfrinair

    Dewiswch gyfrinair y byddwch chi’n ei gofio. Dyna sut y byddwch yn mewngofnodi o hyn ymlaen. Dim ond unwaith y byddwch chi’n gwneud y darn yma.

  4. Rhowch eich cod diogelwch i mewn

    Y tro cyntaf i chi fewngofnodi, byddwn yn anfon cod byr atoch i wirio mai chi sydd yno. Teipiwch y cod i mewn, yna ticiwch Cofiwch y ddyfais hon fel nad oes angen i chi fynd drwy’r cam yma eto ar eich ffôn eich hun. Gallwch ei droi yn ôl ymlaen unrhyw bryd yn Settings/ Gosodiadau

  5. Dweud ‘ie’ i hysbysiadau

    Pan mae’r ap yn gofyn i anfon hysbysiadau atoch, tapiwch Allow. Dyma sut fydd yr ysgol yn eich cyrraedd – fel na fyddwch byth yn colli dim.

  6. Dewis eich iaith

    Tapiwch Settings a dewis o 20 iaith, gan gynnwys Cymraeg. Yna mae pob neges yn cyrraedd yn eich dewis iaith.